3 a'i dau fab. Gersom oedd enw'r naill: “Oherwydd,” meddai, “bûm yn ddieithryn mewn gwlad ddieithr.”
4 Ac Elieser oedd enw'r llall: “Oherwydd,” meddai, “bu Duw fy nhad yn gymorth imi, ac fe'm hachubodd rhag cleddyf Pharo.”
5 Daeth Jethro, tad-yng-nghyfraith Moses, â meibion Moses a'i wraig ato i'r anialwch lle'r oedd yn gwersyllu wrth fynydd Duw,
6 a dweud wrth Moses, “Yr wyf fi, Jethro dy dad-yng-nghyfraith, wedi dod atat gyda'th wraig a'i dau fab.”
7 Aeth yntau allan i'w gyfarch, ac ymgrymu a'i gusanu; yna ar ôl iddynt gyfarch ei gilydd, aethant i mewn i'r babell.
8 Adroddodd Moses wrth ei dad-yng-nghyfraith y cyfan a wnaeth yr ARGLWYDD i Pharo a'r Eifftiaid er mwyn Israel, a'r holl helbul a gawsant ar y ffordd, ac fel yr achubodd yr ARGLWYDD hwy.
9 Llawenychodd Jethro oherwydd yr holl bethau da a wnaeth yr ARGLWYDD i Israel trwy eu hachub o law'r Eifftiaid,