10 Pan fynegodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho hefyd, “Dos at y bobl, a chysegra hwy heddiw ac yfory; boed iddynt olchi eu dillad,
11 a bod yn barod erbyn y trydydd dydd, oherwydd ar y trydydd dydd fe ddaw'r ARGLWYDD i lawr ar Fynydd Sinai yng ngolwg yr holl bobl.
12 Gosod ffin o amgylch y mynydd, a dywed, ‘Gwyliwch rhag i chwi fynd i fyny i'r mynydd na chyffwrdd â'i ffin; oherwydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd â'r mynydd, fe'i rhoddir i farwolaeth
13 trwy ei labyddio neu ei saethu, ond peidied neb â'i gyffwrdd â'i law. Prun bynnag ai dyn ai anifail ydyw, ni chaiff fyw.’ Nid ydynt i ddod i fyny i'r mynydd nes y cenir yn hir ar y corn hwrdd.”
14 Yna aeth Moses i lawr o'r mynydd at y bobl, a'u cysegru; a golchasant eu dillad.
15 Dywedodd wrthynt, “Byddwch barod erbyn y trydydd dydd, a pheidiwch â mynd yn agos at wraig.”
16 Ar fore'r trydydd dydd, daeth taranau a mellt a chwmwl tew ar y mynydd, ac yr oedd sŵn yr utgorn mor gryf nes i'r holl bobl oedd yn y gwersyll ddychryn.