19 Wrth i sŵn yr utgorn gryfhau, llefarodd Moses, ac atebodd Duw ef yn y daran.
20 Yna disgynnodd yr ARGLWYDD ar ben Mynydd Sinai; galwodd Moses i ben y mynydd, ac aeth yntau i fyny.
21 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos i lawr a rhybuddia'r bobl, rhag iddynt frysio i rythu ar yr ARGLWYDD ac i lawer ohonynt farw.
22 Rhaid i'r offeiriaid sy'n nesáu at yr ARGLWYDD hefyd eu cysegru eu hunain, rhag i'r ARGLWYDD eu taro.”
23 Dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, “Ni all y bobl ddod i fyny i Fynydd Sinai, oherwydd iti ein rhybuddio i osod ffin o amgylch y mynydd a'i gysegru.”
24 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos i lawr, a thyrd ag Aaron i fyny gyda thi, ond paid â gadael i'r offeiriaid a'r bobl ruthro i fyny at yr ARGLWYDD, rhag iddo eu taro.”
25 Felly aeth Moses i lawr at y bobl a dweud hyn wrthynt.