3 Aeth Moses i fyny at fynydd Duw, a galwodd yr ARGLWYDD arno o'r mynydd a dweud, “Fel hyn y dywedi wrth dylwyth Jacob ac wrth bobl Israel:
4 ‘Fe welsoch yr hyn a wneuthum i'r Eifftiaid, ac fel y codais chwi ar adenydd eryrod a'ch cludo ataf fy hun.
5 Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod, byddwch yn eiddo arbennig i mi ymhlith yr holl bobloedd, oherwydd eiddof fi'r ddaear i gyd.
6 Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd.’ Dyma'r geiriau yr wyt i'w llefaru wrth bobl Israel.”
7 Felly aeth Moses i alw henuriaid y bobl, a gosod o'u blaen yr holl eiriau hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iddo.
8 Atebodd y bobl i gyd yn unfryd, “Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD.” Yna adroddodd Moses eiriau'r bobl wrth yr ARGLWYDD.
9 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Edrych, fe ddof atat mewn cwmwl tew er mwyn i'r bobl fy nghlywed yn llefaru wrthyt ac ymddiried ynot am byth.”