26 “Pan yw rhywun yn taro llygad ei gaethwas neu ei gaethferch, a'i ddifetha, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y llygad.
27 Os yw'n taro allan ddant ei gaethwas neu ei gaethferch, y mae i ollwng y caeth yn rhydd o achos y dant.
28 “Pan yw ych yn cornio gŵr neu wraig i farwolaeth, llabyddier yr ych, ac nid yw ei gig i'w fwyta; ond ystyrier y perchennog yn ddieuog.
29 Ond os bu'r ych yn cornio yn y gorffennol, a'r perchennog wedi ei rybuddio ond eto heb gadw'r ych dan reolaeth, a hwnnw'n lladd gŵr neu wraig, llabyddier yr ych a rhoi ei berchennog i farwolaeth.
30 Os pennir pridwerth, y mae i dalu am ei fywyd yn llawn yn ôl y pridwerth a bennir.
31 Os yw'r ych yn cornio mab neu ferch, y mae'r un rheol yn dal.
32 Os yw'r ych yn cornio caethwas neu gaethferch, y mae ei berchennog i dalu i'r meistr ddeg sicl ar hugain o arian, ac y mae'r ych i'w labyddio.