5 Anfonodd lanciau o blith yr Israeliaid i offrymu poethoffrymau ac aberthu bustych yn heddoffrymau i'r ARGLWYDD.
6 Yna cymerodd Moses hanner y gwaed a'i roi mewn cawgiau, a thywallt yr hanner arall dros yr allor.
7 Cymerodd lyfr y cyfamod, ac ar ôl iddo'i ddarllen yng nghlyw'r bobl, dywedasant,
8 “Fe wnawn y cyfan a ddywedodd yr ARGLWYDD, a byddwn yn ufudd iddo.” Yna cymerodd Moses y gwaed a'i daenellu dros y bobl, a dweud, “Dyma waed y cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi yn unol â'r holl eiriau hyn.”
9 Yna aeth Moses i fyny gydag Aaron, Nadab, Abihu a'r deg a thrigain o henuriaid Israel,
10 a gwelsant Dduw Israel; o dan ei draed yr oedd rhywbeth tebyg i balmant o faen saffir, yn ddisglair fel y nefoedd ei hun.
11 Ni osododd ei law ar benaethiaid pobl Israel; ond cawsant weld Duw a bwyta ac yfed.