11 Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.
12 Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
13 Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
15 Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
16 yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
17 Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;