13 Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.
15 Y mae'r polion i aros yn nolennau'r arch heb eu symud oddi yno;
16 yr wyt i roi yn yr arch y dystiolaeth yr wyf yn ei rhoi iti.
17 Gwna drugareddfa o aur pur, dau gufydd a hanner o hyd, a chufydd a hanner o led;
18 gwna hefyd ar gyfer y naill ben a'r llall i'r drugareddfa ddau gerwb o aur wedi ei guro.
19 Gwna un yn y naill ben a'r llall yn y pen arall, yn rhan o'r drugareddfa.