3 Dyma'r offrwm yr ydych i'w dderbyn ganddynt: aur, arian ac efydd;
4 sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
5 crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
6 olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;
7 meini onyx, a gemau i'w gosod yn yr effod a'r ddwyfronneg.
8 Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.
9 Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.