36 Bydd y cnapiau a'r ceinciau yn rhan o'r canhwyllbren, a bydd y cyfan o aur pur ac o ddeunydd gyr.
37 Yr wyt i wneud ar ei gyfer saith llusern, a'u gosod fel eu bod yn goleuo'r gwagle o gwmpas.
38 Bydd ei efeiliau a'i gafnau o aur pur.
39 Yr wyt i wneud y canhwyllbren a'r holl lestri hyn o un dalent o aur pur.
40 Ond gofala dy fod yn eu gwneud yn ôl y patrwm a ddangoswyd i ti ar y mynydd.