8 Y maent hefyd i wneud cysegr, er mwyn i mi drigo yn eu plith.
9 Yr ydych i'w wneud yn unol â'r cynllun o'r tabernacl, a'i holl ddodrefn, yr wyf yn ei ddangos i ti.
10 “Y maent i wneud arch o goed acasia, dau gufydd a hanner o hyd, cufydd a hanner o led, a chufydd a hanner o uchder.
11 Yr wyt i'w goreuro ag aur pur oddi mewn ac oddi allan, ac yr wyt i wneud ymyl aur o'i hamgylch.
12 Yna yr wyt i lunio pedair dolen gron o aur ar gyfer ei phedair congl, dwy ar y naill ochr a dwy ar y llall.
13 Gwna bolion o goed acasia a'u goreuro,
14 a'u gosod yn y dolennau ar ochrau'r arch, i'w chario.