14 a dwy gadwyn o aur pur wedi eu plethu ynghyd; gosod y cadwynau wedi eu plethu yn yr edafwaith.
15 “Gwna ddwyfronneg o grefftwaith cywrain ar gyfer barnu; gwna hi, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad ac o liain main wedi ei nyddu.
16 Bydd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
17 Gosod ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
18 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
19 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
20 yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; byddant i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.