18 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
19 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
20 yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; byddant i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
21 Enwir y deuddeg maen ar ôl meibion Israel, a bydd pob un fel sêl ac enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
22 Ar gyfer y ddwyfronneg gwna gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,
23 a hefyd ddau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
24 Rho'r ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,