23 a hefyd ddau fach aur i'w rhoi ar ddwy ochr y ddwyfronneg.
24 Rho'r ddwy gadwyn aur ar y ddau fach ar ochrau'r ddwyfronneg,
25 a dau ben arall y ddwy gadwyn ar y ddau edafwaith, a'u cysylltu ag ysgwyddau'r effod o'r tu blaen.
26 Gwna hefyd ddau fach aur a'u gosod yn nau ben y ddwyfronneg ar yr ochr fewnol, nesaf at yr effod.
27 Yna, gwna ddau fach aur a'u gosod yn rhan isaf dwy ysgwydd yr effod ar y tu blaen, yn y cydiad uwchben y gwregys.
28 Y mae bachau'r ddwyfronneg i'w rhwymo wrth fachau'r effod â llinyn glas uwchben y gwregys, rhag i'r ddwyfronneg ymddatod oddi wrth yr effod.
29 Felly, pan fydd Aaron yn mynd i mewn i'r cysegr, bydd yn dwyn enwau meibion Israel ar ei galon yn y ddwyfronneg barn, yn goffadwriaeth wastadol gerbron yr ARGLWYDD.