32 a thwll yn ei chanol ar gyfer y pen, a gwnïad o'i amgylch fel y twll a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.
33 O amgylch godre'r fantell gwna bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, a chlychau aur rhyngddynt;
34 bydd clychau aur a phomgranadau bob yn ail o amgylch godre'r fantell.
35 Bydd Aaron yn ei gwisgo wrth wasanaethu, ac fe glywir sŵn y clychau pan â Aaron i mewn i'r cysegr gerbron yr ARGLWYDD, a phan ddaw allan; felly ni bydd farw.
36 “Gwna hefyd blât o aur pur, ac argraffa arno, fel ar sêl, ‘Sanctaidd i'r ARGLWYDD’,
37 a chlyma ef ar flaen y benwisg â llinyn glas.
38 Bydd ar dalcen Aaron, ac yntau'n cymryd arno'i hun euogrwydd pobl Israel wrth iddynt gysegru eu rhoddion sanctaidd; bydd ar ei dalcen bob amser, er mwyn iddynt gael ffafr gerbron yr ARGLWYDD.