40 Gwna hefyd siacedau, gwregysau a chapiau i feibion Aaron; gwna hwy er gogoniant a harddwch.
41 Yr wyt i'w gwisgo am Aaron dy frawd a'i feibion, a'u heneinio, eu hordeinio a'u cysegru, er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid.
42 Gwna iddynt hefyd lodrau o liain i guddio'u cnawd noeth, o'u llwynau at y glun.
43 Bydd Aaron a'i feibion yn eu gwisgo wrth iddynt fynd i mewn i babell y cyfarfod ac wrth iddynt agosáu at yr allor i wasanaethu yn y cysegr, rhag iddynt fod yn euog a marw. Bydd hyn yn ddeddf i'w chadw am byth ganddo ef a'i ddisgynyddion.