6 a gwneud yr effod o'r aur, y sidan glas, porffor ac ysgarlad, a'r lliain main wedi ei nyddu a'i wnïo'n gywrain.
7 Bydd iddi ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr er mwyn ei chau.
8 Bydd y gwregys arni wedi ei wnïo'n gywrain, ac o'r un deunydd â'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu.
9 Cymer ddau faen onyx a naddu arnynt enwau meibion Israel
10 yn nhrefn eu geni, chwe enw ar un maen, a chwech ar y llall.
11 Yr wyt i naddu enwau meibion Israel ar y ddau faen fel y bydd gemydd yn naddu sêl, ac yna eu gosod mewn edafwaith o aur.
12 Rho'r ddau faen ar ysgwyddau'r effod, iddynt fod yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, a bod Aaron yn dwyn eu henwau ar ei ysgwyddau yn goffadwriaeth gerbron yr ARGLWYDD.