1 “Dyma'r hyn a wnei i'w cysegru'n offeiriaid i'm gwasanaethu: cymer un bustach ifanc a dau hwrdd di-nam;
2 cymer hefyd beilliaid gwenith heb furum, a gwna fara, cacennau wedi eu cymysgu ag olew, a theisennau ag olew wedi ei daenu arnynt.
3 Rho hwy mewn un fasged i'w cyflwyno gyda'r bustach a'r ddau hwrdd.
4 Yna tyrd ag Aaron a'i feibion at ddrws pabell y cyfarfod, a'u golchi â dŵr.
5 Cymer y dillad, a gwisgo Aaron â'r siaced, mantell yr effod, yr effod ei hun a'r ddwyfronneg, a gosod wregys yr effod am ei ganol.