11 yna lladd di'r bustach gerbron yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12 Cymer beth o waed y bustach, a'i daenu â'th fys ar gyrn yr allor; yna tywallt y gweddill ohono wrth droed yr allor.
13 Cymer yr holl fraster sydd am y perfedd, y croen am yr iau, a'r ddwy aren gyda'r braster, a'u llosgi ar yr allor.
14 Ond llosga gig y bustach, ei groen a'r gwehilion, â thân y tu allan i'r gwersyll; aberth dros bechod ydyw.
15 “Cymer un o'r hyrddod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;
16 yna lladd di'r hwrdd a chymryd ei waed a'i daenu o amgylch yr allor.
17 Tor ef yn ddarnau, ac wedi golchi ei berfedd a'i goesau, gosod hwy gyda'r darnau a'r pen;