31 “Cymer hwrdd yr ordeinio, a berwi ei gig mewn lle cysegredig;
32 yna bydd Aaron a'i feibion yn bwyta cig yr hwrdd, a'r bara sydd yn y fasged, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
33 Y maent i fwyta'r pethau y gwnaed cymod â hwy adeg eu hordeinio a'u cysegru; ni chaiff neb arall eu bwyta am eu bod yn gysegredig.
34 Os gadewir peth o gig yr ordeinio neu o'r bara yn weddill hyd y bore, yr wyt i'w losgi â thân; ni cheir ei fwyta, am ei fod yn gysegredig.
35 “Gwna i Aaron a'i feibion yn union fel y gorchmynnais iti, a chymer saith diwrnod i'w hordeinio.
36 Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod; gwna hefyd gymod dros yr allor wrth iti offrymu aberth dros bechod, ac eneinia'r allor i'w chysegru.
37 Am saith diwrnod yr wyt i wneud cymod dros yr allor a'i chysegru; felly bydd yr allor yn gysegredig, a bydd beth bynnag a gyffyrdda â hi hefyd yn gysegredig.