34 Os gadewir peth o gig yr ordeinio neu o'r bara yn weddill hyd y bore, yr wyt i'w losgi â thân; ni cheir ei fwyta, am ei fod yn gysegredig.
35 “Gwna i Aaron a'i feibion yn union fel y gorchmynnais iti, a chymer saith diwrnod i'w hordeinio.
36 Offryma bob dydd fustach yn aberth dros bechod, i wneud cymod; gwna hefyd gymod dros yr allor wrth iti offrymu aberth dros bechod, ac eneinia'r allor i'w chysegru.
37 Am saith diwrnod yr wyt i wneud cymod dros yr allor a'i chysegru; felly bydd yr allor yn gysegredig, a bydd beth bynnag a gyffyrdda â hi hefyd yn gysegredig.
38 “Dyma'r hyn yr wyt i'w offrymu ar yr allor yn gyson bob dydd:
39 dau oen blwydd, un i'w offrymu yn y bore, a'r llall yn yr hwyr.
40 Gyda'r oen cyntaf offryma ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â chwarter hin o olew pur, a chwarter hin o win yn ddiodoffrwm.