41 Offryma'r oen arall yn yr hwyr, gyda'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm, fel yn y bore, i fod yn arogl peraidd ac yn offrwm trwy dân i'r ARGLWYDD.
42 Bydd hwn yn boethoffrwm gwastadol dros y cenedlaethau wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr ARGLWYDD; yno byddaf yn cyfarfod â chwi i lefaru wrthych.
43 Yn y lle hwnnw byddaf yn cyfarfod â phobl Israel, ac fe'i cysegrir trwy fy ngogoniant.
44 Cysegraf babell y cyfarfod a'r allor; cysegraf hefyd Aaron a'i feibion i'm gwasanaethu fel offeiriaid.
45 Byddaf yn preswylio ymhlith pobl Israel, a byddaf yn Dduw iddynt.
46 Yna byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, a ddaeth â hwy allan o wlad yr Aifft er mwyn i mi breswylio yn eu plith; myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw.