8 Yna tyrd â'i feibion, a'u gwisgo â'r siacedau;
9 rho'r gwregys amdanynt hwy ac Aaron, a'u gwisgo â chapiau. Eu heiddo hwy fydd yr offeiriadaeth trwy ddeddf dragwyddol. Fel hyn yr wyt i ordeinio Aaron a'i feibion.
10 “Tyrd â'r bustach o flaen pabell y cyfarfod, a gwna i Aaron a'i feibion roi eu dwylo ar ei ben;
11 yna lladd di'r bustach gerbron yr ARGLWYDD wrth ddrws pabell y cyfarfod.
12 Cymer beth o waed y bustach, a'i daenu â'th fys ar gyrn yr allor; yna tywallt y gweddill ohono wrth droed yr allor.
13 Cymer yr holl fraster sydd am y perfedd, y croen am yr iau, a'r ddwy aren gyda'r braster, a'u llosgi ar yr allor.
14 Ond llosga gig y bustach, ei groen a'r gwehilion, â thân y tu allan i'r gwersyll; aberth dros bechod ydyw.