14 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hŷn i roi offrwm i'r ARGLWYDD.
15 Nid yw'r cyfoethog i roi mwy, na'r tlawd i roi llai, na hanner sicl, wrth i chwi roi offrwm i'r ARGLWYDD er cymod dros eich bywyd.
16 Cymer arian y cymod oddi wrth bobl Israel a'i roi at wasanaeth pabell y cyfarfod; bydd yn goffadwriaeth i bobl Israel gerbron yr ARGLWYDD, er mwyn i chwi wneud cymod dros eich bywyd.”
17 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
18 “Gwna noe bres, â throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi
19 i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
20 Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agosáu at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn tân i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi â'r dŵr, rhag iddynt farw.