18 “Gwna noe bres, â throed pres iddi, i ymolchi; a gosod hi rhwng pabell y cyfarfod a'r allor, a rhoi dŵr ynddi
19 i Aaron a'i feibion olchi eu dwylo a'u traed.
20 Pan fyddant yn mynd i mewn i babell y cyfarfod, neu'n agosáu at yr allor i wasanaethu neu i losgi offrwm mewn tân i'r ARGLWYDD, y maent i ymolchi â'r dŵr, rhag iddynt farw.
21 Y maent i olchi eu dwylo a'u traed, rhag iddynt farw; bydd hon yn ddeddf i'w chadw am byth gan Aaron a'i ddisgynyddion dros y cenedlaethau.”
22 Dywedodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses,
23 “Cymer o'r perlysiau gorau bum can sicl o fyrr pur, a hanner hynny, sef dau gant pum deg sicl o sinamon peraidd, a dau gant pum deg sicl o galamus peraidd,
24 a phum can sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, o gasia, a hin o olew'r olewydden.