8 ac eto wrth oleuo'r lampau gyda'r hwyr; bydd hwn yn arogldarth gwastadol gerbron yr ARGLWYDD dros y cenedlaethau.
9 Peidiwch ag offrymu arni arogldarth halogedig, na phoethoffrwm, na bwydoffrwm; a pheidiwch â thywallt diodoffrwm arni.
10 Bydd Aaron yn gwneud cymod ar ei chyrn unwaith y flwyddyn dros y cenedlaethau, a bydd yn ei wneud â gwaed yr aberth dros bechod a offrymir er cymod; y mae'n gysegredig iawn i'r ARGLWYDD.”
11 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,
12 “Pan fyddwch yn gwneud cyfrifiad o bobl Israel, y mae pob un i roi iawn am ei fywyd i'r ARGLWYDD, rhag bod pla yn eu plith wrth wneud y cyfrifiad.
13 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad i roi'n offrwm i'r ARGLWYDD hanner sicl, yn cyfateb i sicl y cysegr, sy'n pwyso ugain gera.
14 Y mae pob un a rifir yn y cyfrifiad sy'n ugain oed neu'n hŷn i roi offrwm i'r ARGLWYDD.