19 “Eiddof fi yw'r cyntaf a ddaw o'r groth, y cyntafanedig o'th holl anifeiliaid gwryw, yn wartheg ac yn ddefaid.
20 Yr wyt i gyfnewid cyntafanedig asyn am oen, ac os na fyddi'n ei gyfnewid, tor ei wddf. Yr wyt i gyfnewid pob cyntafanedig o'th feibion. Nid oes neb i ymddangos o'm blaen yn waglaw.
21 “Am chwe diwrnod yr wyt i weithio, ond ar y seithfed dydd yr wyt i orffwys, boed yn amser aredig neu yn gynhaeaf.
22 “Cadw hefyd ŵyl yr Wythnosau, blaenffrwyth y cynhaeaf gwenith, a gŵyl y Cynnull ar ddiwedd y flwyddyn.
23 Y mae pob gwryw yn eich plith i ymddangos o flaen yr ARGLWYDD Dduw, Duw Israel, deirgwaith y flwyddyn.
24 Byddaf finnau'n gyrru cenhedloedd allan o'th flaen ac yn estyn dy derfynau, rhag i neb chwennych dy dir pan fyddi'n ymddangos deirgwaith y flwyddyn o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw.
25 “Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid â chadw aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.