24 Byddaf finnau'n gyrru cenhedloedd allan o'th flaen ac yn estyn dy derfynau, rhag i neb chwennych dy dir pan fyddi'n ymddangos deirgwaith y flwyddyn o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw.
25 “Paid ag offrymu gwaed fy aberth gyda bara lefeinllyd, a phaid â chadw aberth gŵyl y Pasg dros nos hyd y bore.
26 “Yr wyt i ddod â'r gorau o flaenffrwyth dy dir i dŷ'r ARGLWYDD dy Dduw.“Paid â berwi myn yn llaeth ei fam.”
27 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Ysgrifenna'r geiriau hyn, oherwydd yn ôl y geiriau hyn y gwneuthum gyfamod â thi ac ag Israel.”
28 Bu Moses yno gyda'r ARGLWYDD am ddeugain diwrnod a deugain nos, heb fwyta bara nac yfed dŵr, ac ysgrifennodd ar y llechau eiriau'r cyfamod, sef y deg gorchymyn.
29 Pan ddaeth Moses i lawr o Fynydd Sinai gyda dwy lech y dystiolaeth yn ei law, ni wyddai fod croen ei wyneb yn disgleirio ar ôl iddo siarad â Duw.
30 Pan welodd Aaron a holl bobl Israel fod croen wyneb Moses yn disgleirio, yr oedd arnynt ofn dod yn agos ato.