7 yn dangos cariad i filoedd, yn maddau drygioni a gwrthryfel a phechod, ond heb adael yr euog yn ddi-gosb, ac yn cosbi plant, a phlant eu plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth, am ddrygioni eu hynafiaid.”
8 Brysiodd Moses i ymgrymu tua'r llawr ac addoli.
9 Yna dywedodd, “Os cefais yn awr ffafr yn d'olwg, O ARGLWYDD, boed i ti fynd gyda ni. Er bod y bobl yn wargaled, maddau ein gwrthryfel a'n pechod, a chymer ni yn etifeddiaeth i ti.”
10 Dywedodd yr ARGLWYDD, “Edrych, yr wyf am wneud cyfamod. Yng ngŵydd dy holl bobl gwnaf ryfeddodau na wnaed eu tebyg ymhlith unrhyw genedl ar yr holl ddaear; yna bydd yr holl bobl yr wyt yn eu mysg yn gweld gwaith yr ARGLWYDD, oherwydd yr wyf am wneud â thi beth syfrdanol.
11 Cadw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw, a gyrraf allan o'th flaen yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid.
12 Gwylia rhag iti wneud cyfamod â thrigolion y wlad yr ei iddi, rhag iddynt fod yn fagl iti.
13 Dinistriwch eu hallorau, drylliwch eu colofnau, a thorrwch i lawr eu pyst.