2 Chwe diwrnod y gweithiwch, ond bydd y seithfed dydd yn gysegredig, yn Saboth o orffwys i'r ARGLWYDD; rhoddir i farwolaeth bwy bynnag sy'n gweithio ar y dydd hwnnw.
3 Peidiwch hyd yn oed â chynnau tân yn eich cartrefi ar y dydd Saboth.”
4 Dywedodd Moses wrth holl gynulliad pobl Israel, “Dyma'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD:
5 Cymerwch o'r hyn sydd gennych yn offrwm i'r ARGLWYDD; y mae pob un sy'n dymuno rhoi offrwm i'r ARGLWYDD i roi aur, arian ac efydd;
6 sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main; blew geifr,
7 crwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, a chrwyn morfuchod; coed acasia,
8 olew ar gyfer y lampau, perlysiau ar gyfer olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd;