18 Gwnaeth hanner cant o fachau pres i gydio'r babell wrth ei gilydd yn gyfanwaith,
19 a gwnaeth orchudd i'r babell o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch, ac o grwyn morfuchod.
20 Gwnaeth hefyd ar gyfer y tabernacl fframiau syth o goed acasia,
21 pob un yn ddeg cufydd o hyd a chufydd a hanner o led,
22 a dau denon ym mhob ffrâm i'w cysylltu â'i gilydd; gwnaeth hyn i holl fframiau'r tabernacl.
23 Dyma drefn fframiau'r tabernacl: ugain ffrâm ar yr ochr ddeheuol,
24 a deugain troed arian dan yr ugain ffrâm, dau droed i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon.