24 a deugain troed arian dan yr ugain ffrâm, dau droed i bob ffrâm ar gyfer ei dau denon.
25 Ar yr ail ochr i'r tabernacl, sef yr ochr ogleddol, gwnaeth ugain ffrâm
26 a'u deugain troed arian, dau droed dan bob ffrâm.
27 Yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol, gwnaeth chwe ffrâm,
28 a dwy arall ar gyfer conglau cefn y tabernacl,
29 wedi eu cysylltu'n ddwbl yn y pen a'r gwaelod â bach; yr oedd y ddwy ffrâm yr un fath, ac yn ffurfio'r ddwy gongl.
30 Yr oedd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.