30 Yr oedd wyth ffrâm ac un ar bymtheg o draed arian, dau droed dan bob ffrâm.
31 Gwnaeth hefyd farrau o goed acasia, pump ar gyfer fframiau'r naill ochr i'r tabernacl,
32 a phump ar gyfer fframiau'r ochr arall, a phump ar gyfer y fframiau yng nghefn y tabernacl, sef yr ochr orllewinol.
33 Gwnaeth i'r bar a oedd ar ganol y fframiau ymestyn o un pen i'r llall.
34 Goreurodd y fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt, a'u goreuro hwythau.
35 Gwnaeth orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.
36 Gwnaeth ar ei gyfer bedair colofn o goed acasia, a'u goreuro; yr oedd eu bachau o aur, a lluniodd ar eu cyfer bedwar troed arian.