33 Gwnaeth i'r bar a oedd ar ganol y fframiau ymestyn o un pen i'r llall.
34 Goreurodd y fframiau, a gwneud bachau aur i osod y barrau trwyddynt, a'u goreuro hwythau.
35 Gwnaeth orchudd o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu, a cherwbiaid wedi eu gwnïo'n gywrain arno.
36 Gwnaeth ar ei gyfer bedair colofn o goed acasia, a'u goreuro; yr oedd eu bachau o aur, a lluniodd ar eu cyfer bedwar troed arian.
37 Gwnaeth ar gyfer drws y babell len o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu a'i frodio;
38 gwnaeth hefyd bum colofn gyda bachau. Goreurodd ben uchaf y colofnau; ac aur oedd eu cylchau, ond pres oedd eu pum troed.