1 Gwnaethant wisgoedd cywrain o sidan glas, porffor ac ysgarlad ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr; gwnaethant y gwisgoedd cysegredig i Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
2 Gwnaeth yr effod o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
3 Curodd yr aur yn ddolennau tenau a'u torri'n stribedi i'w plethu'n gywrain i mewn i'r sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac i'r lliain main.
4 Gwnaethant ar gyfer yr effod ddwy ysgwydd wedi eu cydio ynghyd ar y ddwy ochr.
5 Yr oedd y gwregys arni wedi ei wnïo'n gywrain, ac o'r un deunydd â'r effod, sef aur, a sidan glas, porffor ac ysgarlad, a lliain main wedi ei nyddu; felly'r oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6 Cymerasant feini onyx a'u trin, a'u gosod mewn edafwaith o aur, a naddu arnynt enwau meibion Israel, fel y bydd gemydd yn naddu sêl.
7 Gosododd hwy ar ysgwyddau'r effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.