22 Gwnaeth fantell yr effod i gyd yn frodwaith o sidan glas,
23 a thwll yn ei chanol, gyda gwnïad o'i amgylch, fel a geir mewn llurig, rhag iddo rwygo.
24 Gwnaethant o amgylch godre'r fantell bomgranadau o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain wedi ei nyddu.
25 Gwnaethant hefyd glychau o aur pur,
26 a'u gosod rhwng y pomgranadau o amgylch godre'r fantell ar gyfer y gwasanaeth; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
27 Gwnaethant siacedau wedi eu gwau o liain main ar gyfer Aaron a'i feibion;
28 gwnaethant hefyd benwisg a chapiau, llodrau