29 a gwregys, y cwbl o liain main wedi ei nyddu ac o sidan glas, porffor ac ysgarlad wedi ei frodio; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
30 Gwnaethant blât y goron gysegredig o aur pur, ac argraffu arno, fel ar sêl, “Sanctaidd i'r ARGLWYDD”;
31 a chlymwyd ef ar flaen y benwisg â llinyn glas; felly yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; ac yr oedd pobl Israel wedi gwneud y cyfan a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
33 Daethant â'r tabernacl at Moses, sef y babell a'i holl lestri, y bachau, y fframiau, y barrau, y colofnau, y traed;
34 y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd;
35 arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa;