34 y to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio'n goch ac o grwyn morfuchod, a'r gorchudd;
35 arch y dystiolaeth a'i pholion a'r drugareddfa;
36 y bwrdd a'i holl lestri, a'r bara gosod;
37 y canhwyllbren o aur pur, ei lampau wedi eu goleuo, ynghyd â'u holl lestri, a'r olew ar gyfer y golau;
38 yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;
39 yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40 llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;