38 yr allor aur, olew'r ennaint a'r arogldarth peraidd; gorchudd drws y tabernacl;
39 yr allor bres, a'r rhwyll bres ar ei chyfer, a'i pholion a'i holl lestri; y noe a'i throed;
40 llenni'r cyntedd, ei golofnau a'i draed; gorchudd porth y cyntedd, ei raffau a'i hoelion, a'r holl lestri ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod;
41 y gwisgoedd wedi eu gwnïo'n gywrain ar gyfer gwasanaethau'r cysegr; gwisgoedd cysegredig Aaron a'i feibion, iddynt wasanaethu fel offeiriaid.
42 Yr oedd pobl Israel wedi gwneud yr holl waith yn union fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses.
43 Gwelodd Moses eu bod wedi gwneud yr holl waith fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn, a bendithiodd Moses hwy.