6 Cymerasant feini onyx a'u trin, a'u gosod mewn edafwaith o aur, a naddu arnynt enwau meibion Israel, fel y bydd gemydd yn naddu sêl.
7 Gosododd hwy ar ysgwyddau'r effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
8 Gwnaeth y ddwyfronneg o grefftwaith cywrain; fe'i gwnaeth, fel yr effod, o aur, o sidan glas, porffor ac ysgarlad, ac o liain main wedi ei nyddu.
9 Yr oedd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
10 Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
11 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
12 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;