9 Yr oedd yn sgwâr ac yn ddwbl, rhychwant o hyd a rhychwant o led.
10 Gosodasant ynddi bedair rhes o feini: yn y rhes gyntaf, rhuddem, topas a charbwncl;
11 yn yr ail res, emrallt, saffir a diemwnt;
12 yn y drydedd res, lygur, agat ac amethyst;
13 yn y bedwaredd res, beryl, onyx a iasbis; yr oeddent i gyd wedi eu gosod mewn edafwaith o aur.
14 Yr oedd deuddeg maen wedi eu henwi ar ôl meibion Israel; yr oedd pob un fel sêl ag enw un o'r deuddeg llwyth wedi ei argraffu arno.
15 Gwnaethant ar gyfer y ddwyfronneg gadwynau o aur pur wedi eu plethu ynghyd,