1 Yna atebodd Moses, “Ni fyddant yn fy nghredu nac yn gwrando arnaf, ond byddant yn dweud, ‘Nid yw'r ARGLWYDD wedi ymddangos i ti.’ ”
2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Beth sydd gennyt yn dy law?” Atebodd yntau, “Gwialen.”
3 Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Tafl hi ar lawr.” Pan daflodd hi ar lawr, trodd yn sarff, a chiliodd Moses oddi wrthi.
4 Ond dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Estyn dy law a gafael yn ei chynffon.” Estynnodd yntau ei law a gafael ynddi, a throdd yn wialen yn ei law.
5 “Gwna hyn,” meddai, “er mwyn iddynt gredu bod yr ARGLWYDD, Duw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac a Duw Jacob wedi ymddangos iti.”
6 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Rho dy law yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd ei law yn wahanglwyfus ac yn wyn fel yr eira.
7 Yna dywedodd Duw, “Rho hi'n ôl yn dy fynwes.” Rhoes yntau ei law yn ôl yn ei fynwes, a phan dynnodd hi allan, yr oedd mor iach â gweddill ei gorff.