25 Ond cymerodd Seffora gyllell finiog a thorri blaengroen ei mab a'i fwrw i gyffwrdd â thraed Moses, a dweud, “Yr wyt yn briod imi trwy waed.”
26 Yna gadawodd yr ARGLWYDD lonydd iddo. Dyna'r adeg y dywedodd hi, “Yr wyt yn briod trwy waed oherwydd yr enwaedu.”
27 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Dos i'r anialwch i gyfarfod â Moses.” Aeth yntau, a chyfarfod ag ef wrth fynydd Duw a'i gusanu.
28 Adroddodd Moses wrth Aaron y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i'w ddweud, a'r holl arwyddion yr oedd wedi gorchymyn iddo eu gwneud.
29 Yna aeth Moses ac Aaron i gynnull ynghyd holl henuriaid pobl Israel,
30 a dywedodd Aaron wrthynt y cyfan yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Moses; a gwnaeth yr arwyddion yng ngŵydd y bobl.
31 Credodd y bobl, a phan glywsant fod yr ARGLWYDD wedi ymweld â phobl Israel a'i fod wedi edrych ar eu hadfyd, bu iddynt ymgrymu i lawr ac addoli.