20 Gwnaeth Moses ac Aaron fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt. Yng ngŵydd Pharo a'i weision, cododd Aaron y wialen a tharo dŵr y Neil, ac fe droes yr holl ddŵr oedd ynddi yn waed.
21 Bu farw'r pysgod oedd ynddi, ac yr oedd yr afon yn drewi cymaint fel na allai'r Eifftiaid yfed dŵr ohoni; ac yr oedd gwaed trwy holl wlad yr Aifft.
22 Ond yr oedd swynwyr yr Aifft hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin; felly caledodd calon Pharo, ac ni fynnai wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
23 Troes Pharo a mynd i mewn i'w dŷ, heb ystyried y peth ymhellach.
24 Am nad oeddent yn medru yfed y dŵr o'r Neil, bu'r holl Eifftiaid yn cloddio gerllaw'r afon am ddŵr i'w yfed.
25 Parhaodd hyn am saith diwrnod wedi i'r ARGLWYDD daro'r Neil.