9 “Os bydd Pharo'n dweud wrthych am wneud rhyfeddod, yr wyt ti, Moses, i ddweud wrth Aaron, ‘Cymer dy wialen a'i thaflu ar lawr o flaen Pharo, ac fe dry'n sarff.’ ”
10 Felly, aeth Moses ac Aaron at Pharo a gwneud fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn iddynt.
11 Taflodd Aaron ei wialen o flaen Pharo a'i weision, ac fe drodd yn sarff. Yna anfonodd Pharo am y gwŷr doeth a'r dewiniaid, ac yr oeddent hwythau, swynwyr yr Aifft, hefyd yn medru gwneud hyn trwy eu gallu cyfrin.
12 Taflodd pob un ei wialen, a throdd pob gwialen yn sarff; ond llyncodd gwialen Aaron eu gwiail hwy.
13 Er hynny, caledodd calon Pharo ac ni wrandawodd arnynt, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
14 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Y mae calon Pharo wedi caledu, ac y mae'n gwrthod rhyddhau'r bobl.
15 Dos at Pharo yn y bore, wrth iddo fynd tua'r afon; aros amdano ar lan y Neil, a chymer yn dy law y wialen a drodd yn sarff.