13 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a bu farw'r llyffaint yn y tai a'r ffermydd a'r meysydd.
14 Yna casglwyd hwy ynghyd yn bentyrrau, nes bod y wlad yn drewi.
15 Pan welodd Pharo ei fod wedi cael ymwared ohonynt, caledodd ei galon a gwrthododd wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.
16 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron, ‘Estyn dy wialen a tharo llwch y ddaear, ac fe dry'n llau trwy holl wlad yr Aifft.’ ”
17 Gwnaethant hynny; estynnodd Aaron ei law allan, a tharo llwch y ddaear â'i wialen, a throes y llwch yn llau ar ddyn ac anifail; trodd holl lwch y ddaear yn llau trwy wlad yr Aifft i gyd.
18 Ceisiodd y swynwyr hefyd ddwyn llau allan trwy eu gallu cyfrin, ond nid oeddent yn medru. Yr oedd y llau ar ddyn ac anifail.
19 Dywedodd y swynwyr wrth Pharo, “Trwy fys Duw y digwyddodd hyn.” Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am wrando ar Moses ac Aaron, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud.