22 Ond ar y dydd hwnnw byddaf yn neilltuo gwlad Gosen, lle mae fy mhobl yn byw, ac ni fydd haid o bryfed yno; felly, byddi'n gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yma yn y wlad.
23 Gan hynny, byddaf yn gwahaniaethu rhwng fy mhobl i a'th bobl di. Bydd yr arwydd hwn yn ymddangos yfory.’ ”
24 Gwnaeth yr ARGLWYDD hynny; daeth haid enfawr o bryfed i dŷ Pharo ac i dai ei weision, a difethwyd holl dir gwlad yr Aifft gan y pryfed.
25 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron a dweud, “Ewch i aberthu i'ch Duw yma yn y wlad.”
26 Ond dywedodd Moses, “Ni fyddai'n briodol inni wneud hynny, oherwydd byddwn yn aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid; ac os aberthwn yn eu gŵydd bethau sy'n ffiaidd i'r Eifftiaid, oni fyddant yn ein llabyddio?
27 Rhaid inni fynd daith dridiau i'r anialwch i aberthu i'r ARGLWYDD ein Duw, fel y mae ef yn gorchymyn inni.”
28 Atebodd Pharo, “Fe adawaf i chwi fynd i aberthu i'r ARGLWYDD eich Duw yn yr anialwch, ond peidiwch â mynd yn rhy bell. Yn awr, gweddïwch drosof.”