29 Yna dywedodd Moses, “Fe af allan oddi wrthyt a gweddïo ar yr ARGLWYDD i'r haid o bryfed symud yfory oddi wrth Pharo a'i weision a'i bobl; ond peidied Pharo â cheisio twyllo eto trwy wrthod rhyddhau'r bobl i aberthu i'r ARGLWYDD.”
30 Felly aeth Moses ymaith o ŵydd Pharo i weddïo ar yr ARGLWYDD.
31 Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn yr oedd Moses yn ei ddymuno, a symudodd yr haid o bryfed oddi wrth Pharo ac oddi wrth ei weision a'i bobl; ni adawyd yr un ar ôl.
32 Ond caledodd Pharo ei galon y tro hwn eto, ac ni ollyngodd y bobl yn rhydd.