3 Bydd y Neil yn heigio o lyffaint, a byddant yn dringo i fyny i'th dŷ ac i'th ystafell wely; byddant yn dringo ar dy wely ac i gartrefi dy weision a'th bobl, i'th boptai ac i'th gafnau tylino.
4 Bydd y llyffaint yn dringo drosot ti a thros dy bobl a'th weision i gyd.’ ”
5 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dywed wrth Aaron, ‘Estyn dy law a'th wialen dros y ffrydiau, yr afonydd a'r llynnoedd, a gwna i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.’ ”
6 Felly estynnodd Aaron ei law dros ddyfroedd yr Aifft, a dringodd y llyffaint i fyny nes gorchuddio'r tir.
7 Ond trwy eu gallu cyfrin yr oedd y swynwyr hefyd yn medru gwneud i lyffaint ddringo i fyny dros dir yr Aifft.
8 Yna galwodd Pharo am Moses ac Aaron, a dweud, “Gweddïwch ar i'r ARGLWYDD gymryd y llyffaint ymaith oddi wrthyf fi a'm pobl, ac fe ryddhaf finnau eich pobl er mwyn iddynt aberthu i'r ARGLWYDD.”
9 Dywedodd Moses wrth Pharo, “Gad imi wybod pryd yr wyf i weddïo drosot ti a'th weision a'th bobl er mwyn symud y llyffaint oddi wrthyt ti ac o'th dai, a'u gadael yn y Neil yn unig.” Meddai yntau, “Yfory.”