1 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos at Pharo a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli.
2 Oherwydd os gwrthodi, a pharhau i ddal dy afael ynddynt,
3 bydd llaw'r ARGLWYDD yn dwyn pla trwm ar dy anifeiliaid yn y maes, ar y meirch, yr asynnod, y camelod, y gwartheg a'r defaid.
4 Ond bydd yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid Israel a rhai'r Eifftiaid, fel na bydd farw dim sy'n eiddo i'r Israeliaid.
5 Pennodd yr ARGLWYDD amser arbennig, a dweud, Yfory y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud hyn yn y wlad.’ ”